Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Hydref 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiswyddo staff gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn pryderon mewn perthynas ag Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ym Mae Colwyn? EAQ(5)0054(FM)
(30 munud)
NDM6111 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn glir ynghylch cyllid ar gyfer prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig ar ôl mis Ionawr 2017 a darparu ffordd fwy rhyngweithiol i'r rhaglen bresennol.
2. Yn cadarnhau mai parhau'n rhan o'r farchnad sengl yw'r dewis gorau ar hyn o bryd i sicrhau mynediad heb dariff a chwota i'r farchnad honno.
3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithwyr mudol i'r economi wledig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Yn galw ar' a rhoi yn ei le:
'Lywodraeth y DU i roi gwarant diamod i ariannu pob prosiect a gontractiwyd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar ôl Datganiad yr Hydref tan 2023.'
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cadarnhau pa mor bwysig ydyw i fusnesau gwledig Cymru gael mynediad i'r farchnad sengl.
(30 munud)
NDM6112
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol.
2. Yn gresynu bod nifer y siopau gwag ar ein stryd fawr yn gyson uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.
3. Yn gresynu at golli asedion cymunedol neu wasanaethau lleol o ganlyniad i'r defnydd ysgafn o'r stryd fawr yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru, a rhoi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig hwb i'r stryd fawr yng Nghymru drwy lunio strategaeth adfywio hirdymor, yn ymgorffori polisi cynllunio, trafnidiaeth gyhoeddus, a meithrin cysylltiadau agosach rhwng busnesau manwerthu ac awdurdodau lleol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Ym mhwynt 4, dileu 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu' a rhoi yn ei le:
'Yn cytuno i edrych ymhellach ar briodoldeb sefydlu'.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd busnesau sy'n cynnig gwasanaethau ar y stryd fawr.
(60 munud)
NDM6109Paul
Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu'r fenter 'hawl i brynu'.
2. Yn cydnabod bod 130,000 o deuluoedd wedi cael cyfle i brynu eu tŷ cyngor eu hunain ers i'r polisi 'hawl i brynu' gael ei gyflwyno yng Nghymru ym 1980, a bod angen ymddiried ym mhobl Cymru i benderfynu drostynt eu hunain ynghylch perchnogaeth tai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod 'hawl i brynu' yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl brynu eu cartrefi eu hunain.
4. Yn credu y dylai'r targed blynyddol ar gyfer adeiladu tai fod o leiaf 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn 2020, yn dilyn argymhellion Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu: 2015 i 2020.
'FMB Programme for Government: 2015 to 2020' (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod pobl yn fwy tebygol o allu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os yw'r economi yn gryfach, os yw cyflogaeth yn fwy sicr a bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod nad perchnogaeth cartref yw'r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gallai ailddosbarthu benthyciadau cymdeithasau tai fel dyled sector cyhoeddus gael effaith andwyol ar dargedau adeiladu tai, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys deddfu os oes angen, i sicrhau nad yw hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i gyllido adeiladu cartrefi newydd neu welliannau i gartrefi yng Nghymru.
(60 munud)
NDM6110 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid rhoi'r gorau i'r prosiect HS2 a defnyddio'r arbedion cyfalaf i wella'r rhwydwaith rheilffordd presennol, gan gynnwys:
(a) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif linell rheilffordd de Cymru yn llawn, ynghyd â phrosiect metro de Cymru; a
(b) diweddaru rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru yn eang.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd a gaiff HS2 ar bobl canolbarth a gogledd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n adeiladol â Llywodraeth y DU a chyrff trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl canolbarth a gogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU:
(a) i gyhoeddi amserlen ar gyfer trydaneiddio prif linell de Cymru hyd at Abertawe;
(b) i ariannu'n llawn y gwaith o drydaneiddio prif linell gogledd Cymru a llinellau cymoedd y de;
(c) i warantu holl arian yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Metro De Cymru; ac
(d) i gychwyn trafodaethau ar drosglwyddo'r cyllid a'r cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd i Weinidogion Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu mai prosiect seilwaith i Loegr yn unig yw prosiect HS2 ac y dylai Cymru dderbyn cyllid canlyniadol Barnett sy'n adlewyrchu hyn.
2. Yn credu y dylai'r cyllid a dderbynnir fel cyllid canlyniadol Barnett gael ei ddefnyddio i greu seilwaith trafnidiaeth effeithiol sy'n cysylltu holl ranbarthau Cymru â'i gilydd, ac y dylai hyn gynnwys y prosiectau canlynol:
(a) gwella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru; gwella cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de; a chreu rhwydweithiau rhanbarthol yn ein prif ardaloedd trefol fel prosiect metro de Cymru a phrosiect metro eang yng ngogledd Cymru;
(b) atebion trafnidiaeth sy'n addas i Gymru wledig a'i heriau demograffig a daearyddol penodol; ac
(c) trydaneiddio prif linellau rheilffordd gogledd a de Cymru, a gwaith diweddaru eang ar rwydwaith ffyrdd ehangach Cymru.
(30 munud)
NDM6108
Huw
Irranca–Davies (Ogwr)
Diogelwch, storio a gwaredu biomas a chynnyrch pren halogedig gan
gwmni South Wales Wood Recycling.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Hydref 2016